DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

TEITL

Canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion

DYDDIAD

 10 Gorffennaf 2019

GAN

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

 

Ym mis Tachwedd 2018 cyhoeddais ymgynghoriad i holi barn ar ganllawiau statudol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ar 10 Mehefin 2019.

Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad am fynegi barn. Roedd yr ymatebion a ddaeth i law yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion, ac roedd consensws clir mewn rhai meysydd.

Rwy'n falch o gael cyhoeddi'r canllawiau statudol newydd heddiw ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion.

Mae'r canllawiau statudol a ddaw i rym o 1 Medi 2019 yn rhoi cyngor i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ar faterion sy'n ymwneud â datblygu, gweithredu neu newid polisi gwig ysgol ac edrychiad disgyblion.

Cyfrifoldeb y corff llywodraethu fydd polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion o hyd, ac rwyf am annog ysgolion yn daer i lunio polisi o'r fath gan fod hynny'n sicrhau llawer o fanteision.

Rhaid i ysgolion roi sylw i ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru wrth ystyried eu polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion.  Fel mae'r canllawiau yn ei nodi, rwy'n disgwyl i gyrff llywodraethu ystyried materion cydraddoldeb, i ba raddau y mae eitemau'r wisg ysgol ar gael a'r gost i deuluoedd, ac ymgynghori'n eang â rhieni, disgyblion a grwpiau eraill. Mae'r canllawiau wedi'u diwygio hefyd i gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ar faterion o bob math, gan gynnwys y cymorth ariannol sydd ar gael i deuluoedd i'w helpu i brynu gwisg ysgol.